Cyflwyniad

1.    Pwrpas y papur hwn yw cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor Menter a Busnes o’r modd y mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn cael ei rhoi ar waith ers iddi dderbyn y Cydsyniad Brenhinol ar 4 Tachwedd 2013 a’i chychwyn ar 25 Medi 2014.

2.    Mae’r Llywodraeth hon wedi gwneud teithio llesol yn flaenoriaeth.  Cafodd yr uchelgais i symud at foddau teithio mwy cynaliadwy trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a seiclo ei fynegi am y tro cyntaf yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru a bu ers hynny’n thema amlwg yn ein cynlluniau a’n rhaglenni – y Cynllun Cyllido Trafnidiaeth Cenedlaethol yw’r mwyaf diweddar o’r rheini.  Daw ei bwysigrwydd o ran cyfrannu at flaenoriaethau strategol yn amlwg pan edrychir yr amcan o gynyddu lefelau cerdded a seiclo ochr yn ochr â’r nodau llesiant a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae gan Deithio Llesol y potensial i gefnogi pob un o’r nodau hyn.

Pwysigrwydd hyrwyddo teithio llesol

3.    Mae Memorandwm Esboniadol y Ddeddf Teithio Llesol yn nodi’n glir y rhesymau dros geisio annog mwy o deithio llesol.  Ers creu’r Ddeddf, mae’r dadleuon o blaid hyrwyddo teithio llesol wedi parhau i gryfhau ac fe’u derbynnir bellach yn helaeth gan bobl y tu hwnt i fyd trafnidiaeth.  Mae mwy a mwy yn cydnabod y berthynas rhwng teithio llesol ac iechyd cyhoeddus, sy’n golygu bod amrywiaeth ehangach o bartneriaid bellach yn hyrwyddo teithio llesol.  Mae’r cynnydd hwn yn cydnabod y manteision lluosog posibl y gellir eu cyflawni heb fawr o anfanteision arwyddocaol.  Mae’r manteision a ddaw yn sgil cyfraddau cerdded a seiclo uwch yn eang eu cwmpas ac yn rhy helaeth i’w rhestru’n llawn at ddiben y papur hwn.  Disgrifir yn y paragraffau isod enghreifftiau byr o’r prif fanteision mewn cysylltiad â’r Nodau Llesiant.

4.    Cymru iachach: mae dealltwriaeth eang o fanteision iechyd teithio llesol.  Maent yn cynnwys manteision iechyd uniongyrchol ac anuniongyrchol trwy gynyddu gweithgarwch corfforol a’r manteision cysylltiedig i iechyd cardiofasgwlaidd a llai o ordewdra, iechyd meddwl gwell ac iechyd resbiradol gwell yn sgil llai o lygredd aer a fasgwlaidd a llai o ordewdra, iechyd meddwl gwell ac iechyd resbiradol gwell yn sgil llai o lygredd aer a sŵn. 

5.    Cymru lewyrchus: Mae cysylltiad rhwng cael mwy o bobl i gerdded a seiclo â manteision economaidd eang, fel y rheini a ddaw yn sgil lleihau tagfeydd, llai o absenoldebau a mwy o wario yn y stryd fawr leol.

6.    Cymru gydnerth: Mae rhai o’r manteision amgylcheddol yn amlwg, fel llai o allyriadau carbon a llygredd, ond lle bo teithio llesol yn cymryd lle defnyddio’r car, gall wneud mwy o le mewn trefi a lleihau’r galw am greu seilwaith newydd ar gyfer trafnidiaeth fodurol.

7.    Cymru o gymunedau cydlynus a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu: Gall y manteision cymdeithasol o ddaw o gerdded a seiclo siwrneiau pob dydd hefyd fod yn sylweddol. Yn aml iawn, mae gan ardaloedd lle ceir llawer o bobl yn cerdded a seiclo gymunedau lleol bywiog sy’n cyfrannu at fwy o gynhwysiant a chydlyniant cymdeithasol a hefyd fwy o ymwybyddiaeth o ddiogelwch y gymuned.

8.    Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang: Cerdded a seiclo yw’r ddau ddull teithio sy’n gadael yr ôl troed carbon lleiaf.  Os disodlir teithiau mewn car gan deithiau llesol, mae hynny’n cyfrannu at leihau allyriadau’r byd o garbon deuocsid.

9.    Cymru sy’n fwy cyfartal: Mae cerdded a seiclo yn ddulliau teithio rhad iawn sydd, o sicrhau’r amodau cywir, ar gael i fwyafrif llethol y boblogaeth, gan gynnwys y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig.

10.Nid yw sicrhau’r manteision pellgyrhaeddol hyn yn dasg y gall Llywodraeth ar ei phen ei hun ei chyflawni: rhaid wrth gydweithio rhwng y sector cyhoeddus cyfan, partneriaid y trydydd sector, busnesau yng Nghymru a hefyd pobl, rhieni, athrawon, cymudwyr a siopwyr.

 

Deddf Teithio Llesol 2013 hyd yma

11.Ers cychwyn y ddeddf, rwyf wedi rhoi cyfres o bileri cynhaliol yn eu lle ar gyfer ei rhoi ar waith.  Rhoddais Gyfarwyddyd yn dynodi’r ardaloedd y mae gofynion mapio’r Ddeddf yn ymwneud â nhw a chyhoeddais ddwy set o ganllawiau statudol i ategu’r Ddeddf: y Canllawiau ar Ddylunio a’r Canllawiau ar Gyflenwi.

12.Cyhoeddais yr Adroddiad Blynyddol cyntaf ar Deithio Llesol ar 9 Rhagfyr 2015.  Mae’n darparu data ar set o fesurau allweddol sy’n ein helpu i dracio lefelau cerdded a seiclo yng Nghymru.  Er ei bod yn rhy gynnar eto i roi ffigurau ar unrhyw gynnydd yn sgil y Ddeddf, mae’r sylfeini yn eu lle inni allu dechrau symud tua’r cyfeiriad cywir.

13.Cafodd y ffordd y mae’r Ddeddf Teithio Llesol yn gweithio at gynyddu lefelau teithio llesol ei datblygu gyda golwg ar rai o’r rhwystrau mwyaf i gerdded a seiclo.  Yn eu plith y mae’r teimlad bod diffyg seilwaith cerdded a seiclo diogel a chyfleus ynghyd â’r diffyg ‘diwylliant’ teithio llesol, ffactor bwysig iawn ond llai diriaethol.

14.Seilwaith – Bydd y Ddeddf yn sicrhau newid trwy broses aml gam: O’r dechrau, ceir asesiad gwrthrychol o’r seilwaith cerdded a seiclo yn yr ardaloedd dynodedig a nodir hefyd y llwybrau teithio llesol sydd eisoes yn bod ac sydd angen eu cyhoeddi ar Fapiau’r Llwybrau sy’n Bod.  Maent yn seiliedig ar waith tirfesur helaeth y talwyd amdano ac a fapiwyd yn ganolog.  Maent yn dangos y llwybrau teithio llesol cyfredol ym mhob ardal ddynodedig ac yn asesu eu safonau.  Y dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno’r mapiau cyntaf hyn yw 22 Ionawr.

15.Gan fod cam nesa’r Ddeddf am ddechrau mynd i’r afael ag achosion natur ddarniog y seilwaith sydd ar gael trwy gyflwyno Mapiau Rhwydwaith Integredig, gan ddechrau ddim hwyrach nag ar ôl cyflwyno Mapiau Llwybrau sy’n Bod. Mae’r Mapiau Rhwydwaith Integredig yn golygu y caiff y rhwydwaith ar gyfer cerdded a seiclo ei gynllunio mewn ffordd strategol a chyson ledled Cymru.  Ar gyfer llawer o awdurdodau lleol, dyma fydd y tro cyntaf iddynt beidio â chynllunio seilwaith cerdded a seiclo ar lefel cynllun a llwybr unigol gan edrych yn hytrach ar yr holl gyrchfannau allweddol yn eu hardaloedd a sut y mae angen eu cysylltu â’r lleoedd y mae pobl yn byw ynddynt. 

16.Un o’r prif ddyletswyddau o dan y Ddeddf yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud gwelliannau o un flwyddyn i’r llall i’w seilwaith cerdded a seiclo a pharatoi adroddiadau arnynt.  Defnyddir Map y Llwybrau sy’n Bod a’r Mapiau Rhwydwaith Integredig gyda’i gilydd i flaenoriaethu’r gwelliannau hyn a thargedu’r llwybrau hynny sydd â’r potensial i sicrhau’r cynnydd mwyaf yn nifer y cerddwyr a’r beicwyr.

17.Newid Diwylliant – Er mwyn newid y diwylliant ddigon i hyn allu digwydd, mae’r Ddeddf a’i chanllawiau’n pwysleisio’r angen i ymgysylltu ac ymgynghori bob cam o’r ffordd.  Nid â cherddwyr a seiclwyr yn unig ond hefyd â defnyddwyr posibl gyda golwg ar helpu i weld beth sy’n rhwystro pobl rhag cerdded a seiclo a’u datrys trwy’r broses blaenoriaethu gwelliannau.

18.Testun sylw’r Gynhadledd Flynyddol ar Deithio Llesol a gynhaliwyd ym mis Tachwedd oedd sut y gallem newid diwylliant trwy gynyddu apêl cerdded a seiclo ac ymestyn y manteision i’r rhannau pwysig hynny o’r boblogaeth sy’n llai tueddol o ymgymryd â theithio llesol.

19.Yn ôl y Ddeddf, mae angen i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru hyrwyddo teithio llesol i gyd-fynd â’r gwelliannau hyn i’r seilwaith.  Rwyf wedi creu contract newydd tair blynedd i Hyrwyddo Teithio Llesol mewn Ysgolion. Bydd y contract yn sicrhau cysylltiadau cryfach â llawer o ysgolion cynradd ac uwchradd sydd wedi cael eu dewis trwy broses arfarnu a bydd hefyd yn neilltuo adnoddau a chefnogaeth i bob ysgol ledled Cymru.

20.Dechreuodd y ddyletswydd arnom i wella seilwaith flwyddyn ar ôl blwyddyn pan gychwynnwyd y Ddeddf.  Ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, rydym yn disgwyl yr adroddiadau cyntaf gan awdurdodau lleol ar y gwelliannau y maen nhw wedi’u gwneud a chostau’r gwelliannau’r hynny.  Y rheini fydd y darlun llawn cyntaf o effaith y Ddeddf hyd yma.

21.Wrth weithredu’r Ddeddf, mae angen inni barhau i ddysgu o’r arferion gorau, gan gynnwys yr hyn sy’n digwydd mewn gwledydd eraill sy’n pennu meincnodau rhyngwladol.  Comisiynais yr Athro Cole i edrych ar fodelau cyflenwi, yn y wlad hon a thu hwnt.  Mae’r adroddiad wedi’i basio i’r Pwyllgor.  Bydd y gwaith hwn yn effeithio ar sut y byddwn yn darparu seilwaith teithio llesol yng Nghymru.

Canllawiau ar Ddylunio

22.Cyhoeddwyd y Canllawiau ar Ddylunio ym mis Rhagfyr 2014 ac mae’n nodi’r safonau ar gyfer seilwaith teithio llesol yng Nghymru ac yn rhoi cyngor ar sut i gynllunio rhwydweithiau teithio llesol.  Mae’r Canllawiau’n rhai statudol a rhoddir blaenoriaeth iddynt pan geir gwrthdaro rhyngddynt â chanllawiau eraill. Rhaid eu defnyddio wrth ddylunio llwybrau teithio llesol ar gefnffyrdd a rhaid eu hystyried mewn cysylltiad â rhwydweithiau nad ydynt yn gefnffyrdd.  Os bydd awdurdodau lleol yn dewis dilyn canllawiau gwahanol, rhaid iddynt esbonio sut mae’r llwybr yn wahanol i’r safonau a pham y gellid ystyried y llwybr hwnnw fel llwybr teithio llesol o hyd.

23.Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi argymell y Canllawiau i awdurdodau lleol yn Lloegr.

24.Prif amcan y Canllawiau ar Ddylunio yw helpu i greu rhwydweithiau teithio llesol sy’n gyfleus a chyfforddus, gan chwalu drwy hynny un o’r rhwystrau mwyaf at deithio llesol.  Gwna hyn trwy esbonio ystod deircam o bosibiliadau ar gyfer seilwaith gan ddibynnu ar yr amgylchiadau; gan amrywio o’r rheini sydd wedi hen ennill eu plwyf (‘manylion safonol’), i’r rheini sy’n llai cyffredin ond sydd wedi esgor ar ganlyniadau da (manylion a gynigir’) i ddyluniadau sydd ond wedi’u defnyddio ambell waith ac a allai fod yn fwy arbrofol eu natur (‘manylion posibl’).  Mae’r canllawiau ar ddylunio’n annog pobl i ddefnyddio pob un o’r categorïau hyn er mwyn casglu corff o brofiad yng Nghymru. Mwyaf arloesol yn y byd yw dyluniad cynllun, yna mwya’n y byd yw’r angen i gadw golwg fanwl arno a’i werthuso.

25.Y bwriad yw diweddaru’r Canllawiau ar Ddylunio i adlewyrchu’r profiad o ddefnyddio’r atebion gwahanol i broblemau seilwaith, yn ogystal â datblygiadau newydd mewn mannau eraill.

26.Mae fy swyddogion fy hun yn dechrau casglu profiad o ddefnyddio’r Canllawiau ar Ddylunio trwy eu defnyddio i ddatblygu cynlluniau teithio llesol newydd ar gefnffyrdd. Mae gofyn i awdurdodau lleol gydymffurfio â’r Canllawiau ar Ddylunio pan fyddant yn cael arian gan Lywodraeth Cymru o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol, Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau neu weithiau’r Grant Diogelwch Ffyrdd.

27.Ar ôl arfarnu’r Mapiau Llwybrau sy’n Bod, bydd fy swyddogion yn gwahodd awdurdodau lleol i weithdai rhanbarthol i gofnodi’r profiad a’r dysgu a fu ym mlwyddyn gyntaf rhoi’r Ddeddf ar waith, yn enwedig y profiad o baratoi Mapiau Llwybrau sy’n Bod ac o ymgynghori arnynt ac o ddefnyddio’r Canllawiau ar Ddylunio i asesu a chynllunio llwybrau teithio llesol.

Cynllun Gweithredu Teithio Llesol

28.Gwnaethom ymgynghori ar Gynllun Gweithredu Teithio Llesol llynedd.  Yr hyn a glywyd yn yr ymateb i’r ymgynghoriad a chan y Bwrdd Teithio Llesol, sydd ag adrannau allweddol, partneriaid allanol a chadeirydd annibynnol yn aelodau ohono, oedd y byddai’r Cynllun Gweithredu ar ei fantais pe bai’n dilyn trywydd gwahanol a phe bai ganddo strwythur gwahanol.  Penderfynon ni hefyd alinio’r Cynllun yn nes at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.   

29.Bydd y Cynllun Gweithredu newydd yn dangos sut y bydd Llywodraeth Cymru ar draws portffolios gwahanol am gefnogi cerdded a seiclo a chynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan.  Mae fy swyddogion wedi cydweithio â phobl mewn adrannau eraill i newid y Cynllun.  Mae’r trywydd hwn yn adlewyrchu’r manteision lluosog a ddisgrifir uchod sy’n gwneud hyrwyddo teithio llesol yn fater trawsbynciol pendant.  Caiff fersiwn derfynol y Cynllun ei gyhoeddi ym mis Chwefror.

Chwalu’r rhwystrau

30.Mae’r Ddeddf Teithio Llesol yn torri tir newydd, nid oes unrhyw beth union yr un peth â hi yn y DU nac unman arall.  Mae hi yn ei blwyddyn lawn gyntaf ac felly megis cropian ydym ni o hyd.  Rhaid wrth ymrwymiad a pharodrwydd i ddysgu ac arbrofi gan bawb, o fewn Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, sy’n ymwneud â’i rhoi ar waith yn ogystal ag ymhlith y rhanddeiliaid a’r cyhoedd sy’n cyfrannu ati trwy ymgynghori ac ymgysylltu.  Heb ymrwymiad, adnoddau na sgiliau, bydd hi’n debygol o ddioddef.

31.Rydym wedi cymryd nifer o gamau pwysig i chwalu’r rhwystrau hyn.  Gwnaethom gydnabod y byddai’r gwaith tirfesur cychwynnol yn debygol o achosi problemau i lawer o awdurdodau lleol oherwydd cyfyngiadau ar staff a cheision ni liniaru’r broblem hon trwy gomisiynu arolwg tirfesur o’r holl ardaloedd dynodedig yn ganolog.  Ychwanegon ni fwy o werth trwy greu system casglu data Cymru gyfan sydd ar gael i bob awdurdod lleol i fapio a chynllunio’u llwybrau teithio llesol ac a gaiff ei ddefnyddio i greu’r mapiau gofynnol mewn fformat cyson.

32.Pan gymerodd y gwaith tirfesur fwy o amser na’r bwriad, symudais y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Mapiau Llwybrau sy’n Bod er mwyn i awdurdodau lleol gael digon o amser i ymgynghori.  Rydym yn parhau i ddarparu hyfforddiant yn ôl y galw ar y system hon i drechu unrhyw rwystrau o ran sgiliau a gwybodaeth.  Rydym wedi rhoi hyfforddiant hefyd ar y Canllawiau ar Ddylunio a byddwn yn casglu profiad a dysgu yn y gweithdai rhanbarthol y bwriedir eu cynnal ar yr arfarniad o’r Mapiau Llwybrau sy’n Bod.